|
|
|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
Mae’r rhanbarth yma o Gymdeithas y Cerddwyr - sef Ardal Gogledd Cymru - yn cwmpasu siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn. Yng Ngogledd Cymru mae oddeutu 11 o Grwpiau at ei gilydd. Cynigia’r Grwpiau hyn raglen dra amrywiol o dros chwe chant o deithiau cerdded tywysedig bob blwyddyn. Arweinir y digwyddiadau hyn gan aelodau gwirfoddoledig Cymdeithas y Cerddwyr. Rydym ni’n trefnu troed-deithiau i gyfarfod gofynion pob math o gerddwyr. Cliciwch yma
neu defnyddiwch y cyswllt CERDDED
uchod i edrych ar ein Rhaglen o Droed-deithiau. Mae’r rhanbarth yma hefyd yn gyfrifol am warchod y llwybrau cerdded ar hyd a lled Gogledd Cymru. Rydym ni’n gweithio’n ddygn i sicrhau fod gan Ogledd Cymru rwydwaith o lwybrau troed o ansawdd da. Ewch i gyswllt LLWYBRAU A MYNEDIANT i adrodd am broblem gyda llwybr, ac i ddarganfod mwy am ein gwaith gyda’r llwybrau cerdded. Mae copa mynyddoedd, gweunydd a rhostiroedd Gogledd Cymru yn gyrchfan
poblogaidd i gerddwyr o bob man dros y byd drwyddo draw. Mae Cymdeithas
y Cerddwyr wedi llafurio’n galed i ennill mynediant cyfreithiol
i’r mannau arbennig hyn. Ymdrinnir â materion cefn gwlad hefyd o dan adran LLWYBRAU A MYNEDIANT Fydd cerdded ond yn hamdden-weithgaredd pleserus tra pery’r cefn
gwlad ei hun i fod yn atyniadol. Mae Ardal Gogledd Cymru o Gymdeithas
y Cerddwyr yn chwarae rhan allweddol mewn ymgyrchoedd yn erbyn datblygiadau
a allai niweidio’r cefn gwlad a’r amgylchedd. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar ein Gwaith Cefn Gwlad. Un trywydd-lwybr pellter hir hynod o enwog erbyn hyn ydyw Llwybr y Clwydian, sydd y rhan fwyaf ohono o fewn Sir Ddinbych. Crëwyd hwn gan ranbarth Gogledd Cymru i ddathlu’r Milflwyddiant ar droad y Mileniwm. Cliciwch yma i fynd i wefan Llwybr Clawdd Wat. Cliciwch yma i fynd i wefan Llwybr y Clwydian. Mae gwefan Llwybrau Cymru yn cynnwys dros ddau gant o droed-deithiau hunan-dywysedig led-led Cymru, y cyfan ohonynt wedi eu datblygu gan aelodau Cymdeithas y Cerddwyr. Cliciwch
yma i ymaelodi â Chymdeithas y Cerddwyr.
|