|
|
|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
A Pilgrims Route for North Wales?
This means that the most likely way through was either along the Ancient Road through Bwlch y Ddeufan or along, or near, what is now the North Wales Path between Conwy Mountain and Bangor.
*In the area between Bethesda and Nant Peris there are some “Holy Wells”.
Chris Potter and Ron Williams
FFURFLEN ADRODD AM YRRU ANGHYFREITHLON ODDI AR Y FFORDD Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn aelod sylfaenol o NWAIMOR (Cynghrair Gogledd Cymru er Dylanwadu ar Yrru Oddi Ar y Ffordd), sydd wedi datblygu ffurflen i adrodd wrth yr heddlu am achosion o yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd. Mae’r ffurflen hon yn cael ei dosbarthu’n helaeth yng Ngogledd Cymru er mwyn annog adrodd am feiciau modur, cerbydau gyriant pedair olwyn a beiciau pedair olwyn yn cael eu gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd fawr. Mwyaf i gyd o achosion a adroddir, uchaf i gyd y bydd y mater yn codi ar yr agenda, a bydd Heddlu’r Gogledd yn cymryd camau effeithiol. Bob tro y dewch ar draws unrhyw achosion anghyfreithlon, a wnewch chi lenwi’r ffurflen a gewch drwy glicio yma, os gwelwch yn dda? Mae cyfarwyddiadau llawn ar flaen y ffurflen. If you would like to support NWAIMOR in their campaign, and receive newsletters about their work, a supporters form can be found by clicking here
TRYWYDD-LWYBR LLYN ALWEN Ers nifer o flynyddoedd bellach bu amryw o Weithwyr Llwybrau Cymdeithas y Cerddwyr yn ymwybodol o drafferthion gyda rhwydwaith y llwybrau ar Fynydd Hiraethog. Un mater a achosai bryder neilltuol iddynt oedd cyflwr y troed-lwybrau o amgylch Llyn Alwen. Yn ddamcaniaethol bodolai hawliau tramwy a thraciau mynediad a fyddai’n ei gwneud yn bosib i greu cylchlwybr yn hwylus. Yn ymarferol fodd bynnag, doedd y cwrs cerdded ddim yn bod oherwydd gordyfiant, draeniad gwael, a choed a blannwyd yma ac acw ar y llwybrau. Tybid pe byddai’r llwybrau o amgylch y gronfa ddwr yn cael eu gwella, y byddai hynny’n agor y cyfan o’r rhwydwaith i gylchlwybrau o gyfeiriad Pentrefoelas a Cherrigydrudion.
Chwe blynedd yn ôl awgrymodd Dave Hollett, a oedd y pryd hynny yn Ysgrifennydd Pwyllgor Cangen Sir Ddinbych o’r Cerddwyr, y dylid adeiladu trywydd-lwybr o amgylch Llyn Alwen. Dilynwyd y datganiad hwnnw gyda chyfnod o ymgynghori gyda thirfeddianwyr, cynghorau Dinbych a Chonwy, a budd-ddeiliaid diddordeb eraill. Yn 2002 cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei gynlluniau, a chyflwynodd ei gais am nawdd-gyllid o Ewrop ac oddi wrth y Cyngor Cefn Gwlad. Yn y pendraw fe gymeradwywyd y cynllun, ar yr amod bod y gwaith i'w gwblhau neu fod yr holl arian i'w wario erbyn y 31ain Mawrth 2006. Dechreuwyd arni tua diwedd y flwyddyn 2005, a pharhawyd â'r llafur drwy gydol oerni chwerw'r gaeaf. Mae'r prif adeiladwaith bellach wedi ei gwblhau. Y cyfan sy'n aros i'w wneud yn awr ydyw'r manion orffeniadau megis gosod arwyddbyst a chyfeirluniau, a darparu meinciau a seddi. Penderfynwyd cynnal y seremoni agoriadol ar y dydd Gwener yr 21ain Gorffennaf 2006. Nawdd-gyllidwyd y prosiect ar sail ei agwedd o gynnig aml-ddefnyddioldeb. Ar hyn o bryd dydyw hi ddim yn bosib i geffylau ddefnyddio’r cylchlwybr yr holl ffordd ar ei hyd, oherwydd bodolaeth un llidiart arbennig. Tra bo’r glwyd yma’n addas i gerbydau’r anabl a choetsis babanod, fe’i dyfeisiwyd i rwystro beiciau modur rhag pasio drwodd. (Croesewir lleoliad y llidiart yma ger Nant Hellyn yn wresog mewn gwirionedd, gan y gallasai’r llwybr newydd hwn fod wedi denu reidiwyr tir-feiciau modur i’w tramwyo’n anghyfreithlon.) Mae’r cyfeir-lwybr wedi ei gyfeirnodi yn dra boddhaol, ac mae’n addas i bob graddiad o gerddwyr, yn ogystal â defnyddwyr cadeiriau olwyn a gwth-gadeiriau olwyn babanod a phlant. Mae hefyd yn addas i seiclwyr.
Felly, sut all y cyhoedd ar droed ddefnyddio'r Trywydd-Lwybr hwn? Craidd y siwrnai ydyw cylchdaith wyth milltir sy'n amgylchynu Llyn Alwen. Gallwch gychwyn ar eich crwydro o'r naill neu'r llall o ddau faes parcio ceir sydd ar safle Llyn Alwen; un ohonynt wrth ymyl yr argae, a'r llall ger y lanfa Sgio Dwr. Gellir ymestyn hyd y droed-daith trwy gynnwys y marchlwybr o Ben y Ffridd i Lyn Brennig, a cherdded i lawr naill ai heibio ochr gorllewinol y llyn (oddeutu 12 milltir) neu ar hyd ei ochr dwyreiniol (tua 15 milltir). Yn achos yr awgrymiadau hiraf wrth gwrs, gellir cychwyn o safle'r Ganolfan Ymwelwyr ardderchog ar lan Llyn Brennig. Mae'n werth nodi bod caffi'r ganolfan yma yn cau ei ddrysau (ar wahanol adegau) am naill ai 4.00yp neu 4.30yp. A ydyw’r cylchlwybr yma’n werth ei gerdded? Mae’r cyflwr dan draed ar y trywydd-lwybr yn llawer gwell na’r hyn a geir ar ochr ddwyreiniol Trywydd-Lwybr Brennig - sydd wedi ei neilltuo’n un-pwrpas i gerddwyr yn unig. Dyma ardal dawel hefyd, gyda digonedd o fywyd adar i’w ganfod yma. Mae ganddo’r cwbl o’r elfennau hanfodol ar gyfer mwynhau hamdden-grwydro; coed, dwr, wynebweddau agored, a sawl arsyllfan ar y ffordd i gymryd i mewn olygfeydd a thirweddau godidog - yn arbennig felly o ochr gogledd-orllewin y llyn. Mae cylchdeithiau cerdded yn bosib hefyd yr holl ffordd o Gerrigydrudion a Phentrefoelas, er bod angen gwneud mwy o waith eto ar yr hawliau tramwy yn y cyffiniau hynny. Ron Williams
Ar y dydd Sadwrn y 6ed Awst 2005 lansiwyd gwasanaeth newydd i gerddwyr yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gwasanaeth bws mini a thacsi rhwng Rhyd Ddu a Thalysarn; er y gallwch gael gafael arno hefyd oddi wrth yr arosfa bws ym Mhenygroes. Y syniad ydyw eich bod yn parcio eich cerbyd modur yn Nhalysarn ac yn ffonio oddi yno am y bws mini i fynd â chi drosodd i Rhyd Ddu. Wedyn byddwch yn cerdded yn ôl at eich car. Bwriedir y gwasanaeth yn ei hanfod ar gyfer cerddwyr sy’n dymuno troedio Esgair Nantlle; er wrth gwrs y gellir ei ddefnyddio i’r un diben o gerdded llwybrau eraill sydd ar gael rhwng Rhyd Ddu a Thalysarn neu Benygroes. Ymhlith y posibiliadau amlwg gellir meddwl am y llwybrau unionlin i lawr y dyffryn, neu’r trywydd-lwybrau eraill dros y Mynydd Mawr. Hefyd, hyderir y bydd ymwelwyr â’r ardal yn ogystal â phreswylwyr lleol yn manteisio ar y ddarpariaeth newydd yma, ac y byddant yn awyddus i ddefnyddio’r gwasanaeth. Sefydlwyd y gwasanaeth ar seiliau digon tebyg i wasanaethau’r Trên-dacsis sy’n gweithredu bellach mewn nifer o wledydd Ewropeaidd. Yn achos nifer o’r trefniadau tramor hynny, yr un faint o arian fyddwch chi’n ei dalu am eich cludiant, beth bynnag fo nifer y teithwyr ar y siwrnai arbennig honno. Yn yr achos yma yn ardal Talysarn, fodd bynnag, y gost fydd un bunt (£1.00) y pen. Ond os ydych chi’n berchen ar Cerdyn Cymru, chostith y siwrnai ddim ceiniog i chi; bydd y daith yn gwbl ddi-dâl ac am ddim. Gellir archebu gwasanaeth y tacsi ymlaen llaw os mynnwch - a dyna’r cyngor yn sicr yn achos grwpiau - drwy ffonio 01286 676 767. Dylid nodi mai eithaf gwan a gwamal ydyw signal y ffonau symudol yn yr ardal o amgylch Rhyd Ddu; felly peidiwch â dibynnu ar i’r signal fod yn ddigon cryf i weithio’n effeithiol ar y diwrnod y byddwch chi ei angen. Y NEWYDD DIWEDDARAF Tacsi/Bws Esgair Nantlle - Isafswm Tâl Erbyn hyn mae isafswm tâl o £5.00 am y gwasanaeth hwn. Gyda
phump neu fwy o deithwyr, bydd pob un ohonynt yn talu £1.00 yr un. Dylid adrodd am unrhyw drafferthion a brofir gyda’r gwasanaeth, i’r Tîm Allwedd Werdd (Green Key Team) yn swyddfeydd Cyngor Sir Gwynedd, ar 01286 679 615. Hwn ydyw’r rhif ffôn i’w ddefnyddio hefyd at dderbyn rhagor o wybodaeth ar wasanaeth y bws-dacsi neilltuol hwn dan sylw yma, yn ogystal ag am wasanaethau’r Bws Sherpa. Dechreuwyd y gwasanaeth hwn o ganlyniad i flaengaredd Cymdeithas y Cerddwyr; ac os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn sicr o edrych ymhellach ar y posibiliadau o ymestyn y gyfryw ddarpariaeth. Bydd y cyfnod treialu cychwynnol yma yn dod i ben ar yr 31ain Mawrth 2006, ond disgwylir yr ymestynir y cynllun am o leiaf un flwyddyn arall. |
|