|
|
|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| Mae Gweithwyr Llwybrau yn hanfodol i waith a gorchwyl Cymdeithas y Cerddwyr. Eu prif nod ydyw gwarchod yr hawliau tramwy, ac annog cerddwyr i’w defnyddio. Dyma’r bobl ar y ddaear, fel petai, sy’n delio ar ran y Gymdeithas, gydag Adroddiadau ar Broblemau gyda Llwybrau. Wedi adrodd i Gymdeithas y Cerddwyr ynghylch trafferthion yng nghyswllt un neu fwy o lwybrau, bydd Gweithwyr Llwybrau’r Gymdeithas yn ymgymryd ag archwiliadau pellach; e.e. i gael gwybod a ydyw’r llwybr dan sylw yn llwybr diffiniedig neu ddim, a cheisio darganfod pwy sy’n gyfrifol am y broblem. Wedyn, hysbysir awdurdod y priffyrdd am y broblem, ac yna rhaid ymdrechu i sicrhau y bydd y broblem yn cael ei datrys. Bydd Gweithwyr Llwybrau hefyd yn gwneud arolwg o’r llwybrau o fewn eu bro neu eu cymuned hwy eu hunain. Golyga hyn gerdded y llwybrau a chofnodi nodiadau ar gyflwr y llwybrau, y camfeydd neu’r sticlau, yr arwyddbyst, ac ati. Bydd y cofnodion hyn yn ein galluogi ni i gael trosolwg manwl o gyflwr y rhwydwaith llwybrau, gan nod-ddangos yr hyn sydd angen ei wneud i’w gwella yma ac acw. At hynny, bydd Gweithwyr Llwybrau yn delio gyda Rheolaethau Llwybrau. Ni ellir newid y rhwydwaith llwybrau ond trwy weithredoli rheolaeth llwybr a fydd yn ymgynnwys dargyfeirio llwybr, neu mewn achosion eithafol, yn dileu llwybr. Bydd Gweithwyr Llwybrau yn ymweld â’r safle arfaethedig i asesu ynteu a fydd y newid dan ystyriaeth yn fuddiol neu ddim i gerddwyr. Weithiau bydd Gweithwyr Llwybrau yn trefnu gwaith clirio ymarferol, neu’n ymgyrchu, er enghraifft, am fwy o adnoddau neu dros amgenach dyraniad yn achos y cronfeydd o fewn Awdurdod y Priffyrdd a neilltuir gogyfer gwaith cynnal a chadw a datblygu hawliau tramwy; neu byddant yn ymwneud â gwaith ymchwil ar y mapiau diffiniedig. Cânt eu cymorth-gefnogi gan staff y Gymdeithas sydd wedi eu lleoli yn swyddfa ganolog Y Cerddwyr yn Llundain, yn ogystal â chan staff Swyddfa Cerddwyr Cymru yng Nghaerdydd. Croesawn aelodau’r Gymdeithas yn ogystal â chynrychiolwyr o’r cyhoedd cyffredin i ymuno â ni, i fod yn rhan o dîm, i gydweithio ar Bwyllgor Troed-lwybrau lleol Cymdeithas y Cerddwyr. Os deuwch ar draws trafferth gyda llwybr troed, a’ch bod yn gwybod
ym mha sir neu pa gymuned y bo lleoliad y broblem, yna cwblhewch Ffurflen
Achwyn Ynghylch Llwybr, ac anfonwch hi i’r Ysgrifennydd Llwybrau
perthnasol. Os ydych chi’n ansicr pwy ydyw’r cyfryw berson
ddylai dderbyn y ffurflen, anfonwch hi at Ysgrifennydd Llwybrau eich Ardal
chi eich hun. Cliciwch yma for Open Access Report Forms. The contact is: Max Grant Cliciwch yma for Off-Roaders On Footpath report form and instructions. You will need the free Acrobat Reader, unless you already have it. If
you don't then click here, on the Acrobat button: Cliciwch yma am fanylion cysylltu gydag
Ysgrifenyddion Llwybrau Sirol. |
|