Ar droad y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pasiodd Tŷ’r Arglwyddi y Deddfau Cau Tiroedd, a symudodd yn dra effeithiol hawliau pobl i gerdded yr holl ffordd i gopaon mynyddoedd, gweunydd, rhostiroedd, bryniau a tharddiadau afonydd yng Nghymru a Lloegr.
Byth ers grymuso’r cyfryw Ddeddfau - a oedd yn benodol i bob un tirfeddiannwr ac wedi eu pasio gan eu cyfeillion personol yn Nhŷ’r Arglwyddi - mae pobl wedi bod yn ymgyrchu dros adfer yr hen hawliau a ddisodlwyd. Yr ymgais difrifol cyntaf a gaed oedd pan gyhoeddwyd Mesur gan Tom Ellis, Aelod Seneddol Meirionnydd, ym 1884. Er bod yr ymdrech lew honno yn rhwym o fethu, gosododd y cymwynaswr hwnnw gyrchnod clir serch hynny, gogyfer ymgyrchu pellach tua’r dyfodol.
Ffurfiwyd Cymdeithas y Cerddwyr ym 1935, i raddau helaeth fel canlyniad i weithredu yng Ngogledd-Orllewin Lloegr gan gerddwyr a gedwid i ffwrdd rhag mynd ar gyfyl y Gweunydd enwog yn y cyffiniau, gan dirfeddianwyr - ac yn fwy penodol felly gan eu ciperiaid. Ar y pryd hefyd roedd rhwydwaith yr hawliau tramwy yn cael eu herydu.
Ymhlith nod ac amcanion Cymdeithas y Cerddwyr cynhwysir y cymal “i hyrwyddo mynediant i gefn gwlad agored”. Ym 1949 pasiodd y llywodraeth Ddeddf y Parciau Cenedlaethol, a roddai i Awdurdodau’r Parciau a’r llywodraethau lleol y grym i gydymdrafod y mater o fynediant gyda’r tirfeddianwyr perthnasol. Ar wahân i Barc Cenedlaethol Ardal y Copaon, ychydig a wnaed mewn gwirionedd yn ystod y deugain mlynedd a ddilynasai, i fwrw ymlaen gyda’r agenda hwnnw. Bu i Barciau eraill - gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri - gytuno ar rai mynediannau, gan dalu arian i berchnogion tir; ond gan gadw’r cyfryw drefniadau yn dawel oddi wrth bawb arall, i raddau helaeth. Penderfynodd Cymdeithas y Cerddwyr ei bod yn amser i drefnu ymgyrch cydunol, a lansiwyd o dan y teitl “Hawl i Grwydro”. Bu’r ymgyrch yn llwyddiannus, ac arweiniodd maes o law at ymrwymiad y Blaid Lafur i’r cyfryw berwyl yn ei maniffesto ym 1997.
Y canlyniad oedd gweld gwireddu Deddf y Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW) 2000. Y peth cyntaf y bu’n rhaid penderfynu arno oedd pa dir oedd i ddod yn hygyrchadwy; h.y. Pa fannau oedd i'w nodi fel tiroedd y gellid troedio'n gyfreithiol arnynt? Disgynnodd y gwaith hwn o bennu pa fynyddoedd, bryniau, gweunydd a rhostiroedd fyddai’n derbyn hawl mynediant iddynt, i Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Cymerodd y gorchwyl ychydig dros dair blynedd, ac fe’i cwblhawyd yn llwyddiannus iawn. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, addysgodd y Cyngor Cefn Gwlad ddeiliad tir ynghylch yr hawl mynediant newydd, gan weithio’n ogystal ar y Côd Cefn Gwlad newydd.
Ar yr 28ain o fis Mai eleni (2005) daeth Mynediant Agored yn gyfraith gwlad yng Nghymru. I nodi achlysur y dyddiad, trefnodd Cymdeithas y Cerddwyr ar y cyd â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ddigwyddiad ym Mharc Gwledig Loggerheads. Yn dilyn yr anerchiadau, ymunodd aelodau o’r Cerddwyr â Gweinidog y Cynulliad Alun Pugh ynghyd â chynrychiolwyr amryw o sefydliadau cysylltiedig, ar daith gerdded i gopa Moel Gyw. Roedd Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi arloesi cynllun peilot o fynediant agored ar y rhandir hwn, gyda chytundeb y ffermwr biau’r tir, ers mis Tachwedd 2004. Ymunodd y ffermwr dan sylw, Huw Smith, gyda ni hefyd ar y siwrnai gerdded.
Mae Ardal Gogledd Cymru o Gymdeithas y Cerddwyr yn falch o dderbyn cymorth-gefnogaeth ein Haelodau yn y Cynulliad, ac yn arbennig felly Alan Pugh sy’n gerddwr brwd ac sydd wedi cwblhau 157 Munroe. Arweiniwyd y daith gerdded gan Lucy Bick o Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, a oedd y Swyddog Mynediant cyntaf i gael ei hapwyntio gan awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cefnogaeth y Swyddogion yma o Sir Ddinbych wedi golygu bod y sir yma ymhell ar y blaen i weddill Cymru, o safbwynt paratoi gogyfer Mynediant Agored.
Ron Williams.
Yn
ôl i brif dudalen y Llwybrau a Newyddion Mynediant