Cyfarwyddyd Cyffredinol

1. Dewch â bwyd a dillad addas gyda chi ar gyfer unrhyw amgylchiadau, yn dibynnu ar y fath o daith gerdded y byddwch yn ymuno â hi. Ar droed-deithiau mynyddig, cludwch gyda chi fwyd a dillad dros ben, ar gyfer digwyddiad posib o argyfwng.


2. Gall arweinwyr wrthod caniatáu ar eu siwrneiau cerdded unrhyw unigolyn nad ydyw’n ymddangos yn ddigon ffit ar gyfer cwrs y trywydd-lwybr dan ystyriaeth, neu unrhyw un nad ydyw wedi troi allan gyda dillad, bwyd neu gyfarpar priodol a chymwys gogyfer amodau’r daith. Os mewn amheuaeth, ceisiwch gyngor Arweinydd neu Ysgrifennydd Rhaglen eich Grŵp, dros y ffôn ymlaen llaw.


3. Ar siwrneiau cerdded mynyddig yn ystod y gaeaf, fel arfer bydd yn angenrheidiol i chi fod â rhew-fwyell yn eich meddiant, a bydd cramponau hefyd yn aml iawn yn ddefnyddiol. Os yn ansicr, ffoniwch mewn da bryd am gyfarwyddyd cywir.


4. Dylai cyfranogwyr gofio fod wastad elfen o risg ar unrhyw daith gerdded, ac y dylid felly gymryd gofal bob amser, gan ystyried eich diogelwch chi eich hun ac eraill.


5. Gellir newid cyfeiriad a thrywydd y bwriadwyd cerdded unrhyw daith, i weddu’r amodau ar y pryd. Yn dilyn cyhoeddi rhybudd tywydd gerwin ar y radio neu’r teledu, bydd gan arweinydd yr hawl i ganslo taith gerdded arfaethedig, heb fynd yn bersonol i fan cychwyn y daith i gadarnhau’r gyfryw wybodaeth.


6. Cwn! Cwn! Cwn! Mae rhawd y rhan fwyaf o dreigl-lwybrau cerdded yng Ngogledd Cymru yn dirwyn drwy gefn gwlad sy’n gynefin naturiol i ddefaid, lle y gall cwn fod yn gryn embaras i arweinwyr troed-deithiau tywysedig. Hyd yn oed pan fo ci dan reolaeth glòs ac agos, serch hynny gall defaid gael braw. Ni chaniateir i chi fynd â’ch cwn gyda chi ar UNRHYW UN o’r teithiau cerdded a drefnir gan Grwpiau Cerdded Meirionnydd, y Berwyn, Dyffryn Clwyd na Glannau Dyfrdwy; ac yn achos gweithgareddau cerdded rhai Grwpiau eraill o fewn y rhaglen hon hefyd fe nodir y rhybudd “Dim Cwn”. Os bydd taith gerdded benodol o fewn y gyfryw raglen, yr hoffech chi fynd â’ch ci arni gyda chi, ffoniwch arweinydd y daith ymlaen llaw, os gwelwch yn dda, i gadarnhau beth allai fod yn bosib.


7. Ddim eto yn aelod? Bydd croeso i chi ymuno ar un o’n teithiau cerdded.

 

Yn ôl i dudalen y Prif Deithiau Cerdded