Cerddwyr Ardal Gogledd Cymru

Dewiswch eich iaith

Cliciwch ar y faner berthnasol i gael y Gymraeg neu’r Saesneg / Click on the relevant flag for Welsh or English

 Our walk list currently shows walks from only some of our groups. We hope to have a full list again shortly but please contact your local group if their walks are not showing. Sorry! (and for my lack of confidence to write this in Welsh.)

 51990405739 f7a33781ab k

Mae Cerddwyr yr ardal hon yn perthyn i siroedd Gogledd Cymru, sef Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Croeso i’n gwefan. Gogledd Cymru yw un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol ac ysblennydd yn y Deyrnas Unedig i gerddwyr. Mae’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri a thair ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – arfordir Môn, Pen Llŷn, a bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae gennym arfordiroedd a mynyddoedd gwych; ardaloedd gwledig tawel; hanes; diwylliant; bywyd gwyllt a chynefinoedd. Rydym eisiau i’r bobl sy’n byw yma, yn ogystal â’r ymwelwyr, allu mwynhau archwilio’r ardal hyfryd hon.

Oriel Luniau:

15398879810_78d775b08f_k.jpg
PlayPause
previous arrow
next arrow

Ffotograff:  Matt Nobles

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn gweithio gyda’n grwpiau lleol. Gallwn eich helpu i fynd allan i’r awyr agored a gwneud ffrindiau newydd a chanfod sut mae cerdded yn rhoi hwb i’ch iechyd a’ch hapusrwydd.

Mae 9 o Grwpiau Cerddwyr yng Ngogledd Cymru. Mewn blwyddyn arferol mae’r Grwpiau hyn yn cynnig rhaglen amrywiol o fwy na 600 o deithiau cerdded gydag arweinydd. Aelodau gwirfoddol o’r Cerddwyr sy’n arwain y rhain. Mae gennym deithiau cerdded addas i bawb, beth bynnag maen nhw’n ei fwynhau. Mae croeso i aelodau newydd ar ein teithiau cerdded ac hefyd i bobl sy’n ystyried dod yn aelodau. Yn aml iawn, mae’n syniad da i gysylltu ag arweinydd taith gerdded o flaen llaw i gael manylion y daith ac weithiau efallai y bydd angen cadw lle o flaen llaw. I gael rhagor o wybodaeth am ein grwpiau, cliciwch YMA.

Mae’r Cerddwyr yn gyfrifol am ddiogelu’r llwybrau troed yng Ngogledd 

Cymru. Rydym wrthi’n gweithio’n frwd i sicrhau bod gan yr ardal rwydwaith o lwybrau cerdded o safon uchel.  I ganfod rhagor, neu i gymryd rhan yn y gwaith hwn, cliciwch YMA.

 51989365842 e195fd0d31 k

Mae gan Gerddwyr Gogledd Cymru ymrwymiad i ddiogelu’r llwybrau troed yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i geisio sicrhau bod gan yr ardal rwydwaith o lwybrau cerdded o safon uchel.  I ganfod rhagor, neu i gymryd rhan yn y gwaith hwn.

Rydym yn falch o’n llwyddiannau o ran amddiffyn a gwella’r hawliau tramwy yng Ngogledd Cymru. Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod y llwybrau’n agored ac yn cael eu gwella drwy’r amser.

  • Rydym yn rhoi gwybod am broblemau ac yn cadw llygad ar y sefyllfa;
  • Rydym yn trafod dargyfeiriadau posibl gyda pherchnogion tir, cynghorau a phobl eraill sydd â diddordeb;
  • Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith ymarferol i wella’r rhwydwaith;
  • Rydym yn cynnig gwelliannau i lwybrau a mannau agored ac yn helpu i ganfod yr arian i’w gweithredu nhw; 
  • Rydym yn gwrthwynebu unrhyw gynnig fyddai’n niweidiol yn ein barn ni i’r cyhoedd, i harddwch cefn gwlad neu i’r amgylchedd;
  • Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Cynghorau Sir i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud a bod cyllidebau’r llwybrau troed yn ddiogel.