Mae’r rhan fwyaf o’n Grwpiau’n rhestru rhai teithiau cerdded yn y Llawlyfr hwn ond maent hefyd yn defnyddio ffyrdd eraill o gynllunio a hysbysebu teithiau ychwanegol. Mae holl deithiau cerdded y Cerddwyr yn agored ac mae croeso i ymwelwyr ddod arnynt (pobl nad ydynt yn aelodau, ac aelodau grwpiau eraill).
Ar wefan genedlaethol y Cerddwyr www.ramblers.org.uk mae rhestr o deithiau cerdded sy’n cael ei diweddaru drwy’r amser ac mae’n bwydo i mewn i wefan Gogledd Cymru www.ramblersnorthwales.org.uk a nifer o restrau teithiau cerdded ar wefannau grwpiau.
Isod mae manylion i ddangos lle mae rhagor o deithiau cerdded gan ein grwpiau. Gall y teithiau cerdded hyn gael eu hychwanegu unrhyw bryd. Mae’n well gan lawer o arweinwyr y teithiau cerdded hyblygrwydd cynllunio taith yn agosach at y dyddiad. Mae rhai grwpiau ac arweinwyr yn gofyn i gerddwyr gadw lle o flaen llaw ond mae nifer yn cyhoeddi’r man cyfarfod ac yn gadael i gerddwyr benderfynu ar y diwrnod.
Os nad oes rhaid i chi gadw lle ond mae gennych gwestiynau neu ofynion arbennig, defnyddiwch y manylion cysylltu ar gyfer y grŵp neu arweinydd y daith i gysylltu.
Mae manylion eraill am y grwpiau, yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau cymdeithasol, teithiau i ffwrdd a ffotograffau i’w cael yn aml ar y gwefannau neu’r tudalennau facebook.
Islaw manylion y grŵp mae manylion cysylltu ar gyfer rhai o’n grwpiau cyswllt sydd hefyd yn cynnig teithiau cerdded dan arweiniad.( Ein Grwpiau)
Cofiwch edrych ar y pellter a graddfa anhawster y teithiau i ddewis taith sy’n addas i chi. Gan fod cymaint o deithiau cerdded i chi ddewis ohonynt, rydych yn siŵr o ganfod rhai y byddwch yn eu hoffi!!
Berwyn
Mae ein teithiau cerdded ar ddydd Iau ddwy waith y mis, gallwch weld y rhaglen ddiweddaraf ar www.berwynra.org.uk ac ar wefan gogledd Cymru www.ramblersnorthwales.org.uk
Clwyd
Gallwch weld manylion teithiau cerdded grŵp Clwyd ar wefan y Cerddwyr www.ramblers.org.uk, ar wefan Gogledd Cymru www.ramblersnorthwales.org.uk neu ar dudalen Facebook grŵp Cerddwyr Clwyd.
Dyffryn Conwy
Mae nifer sylweddol o deithiau cerdded Grŵp Dyffryn Conwy wedi eu trefnu gyda rhybudd o ychydig wythnosau yn unig a chânt eu cyhoeddi ar ein gwefan ni, ar y wefan genedlaethol ac ar ein facebook. Ewch i edrych ar wefan DC www.conwyvalleyra.org.uk .
Glannau Dyfrdwy
I gael manylion diweddaraf ein teithiau cerdded, gwelwch:
(i) wefan y grŵp ar www.deesideramblers.org.uk neu (ii) gronfa ddata o deithiau cerdded y Cerddwyr drwy Brydain gyfan ar https://www.ramblers.org.uk/find-a-walk.aspx?layer=walks&tab=walks&group=LW09 neu (iii) dudalen Facebook y grŵp ar http://www.facebook.com/groups/deesideramblers
Eryri
Mae teithiau cerdded Eryri yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan https://eryriramblers.org ac maen nhw’n rhoi hysbysiadau ar dudalen Facebook Cerddwyr Eryri. Rydym yn cyfyngu’r niferoedd i lefelau doeth sy’n addas i’r math o daith gerdded, felly mae angen i’n cerddwyr archebu lle drwy gyfrwng y wefan.
Meirionnydd
Rydym yn cynnig rhaglen amrywiol o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn postio manylion ein teithiau cerdded i gyd ar dudalen Canfod Teithiau Cerdded y Cerddwyr a gallwch weld hon drwy fynd i’n gwefan ar www.meirionnyddramblers.org.uk neu drwy wefan Cerddwyr Gogledd Cymru ar www.ramblersnorthwales.org.uk.
Gallai teithiau cerdded gael eu newid neu eu canslo ar fyr rybudd, yn enwedig mewn tywydd gwael. I osgoi siomiant, rydym yn eich cynghori i edrych a oes unrhyw newidiadau ddiwrnod neu ddau o flaen llaw drwy edrych ar-lein neu drwy ffonio’r arweinydd.
Dyffryn Clwyd
Gallwch weld manylion teithiau cerdded gan Gerddwyr Dyffryn Clwyd ar ein gwefan yn ogystal ag ar Facebook, Ramblers' Walk Finder a Cherddwyr Gogledd Cymru hefyd. Cyhoeddir y teithiau cerdded yn fisol ac mae’r system hon yn gweithio’n dda iawn. Mae croeso i aelodau’r holl gymdeithasau ac ymwelwyr ymuno â ni. www.voc-ramblers.org.uk
Wrecsam
Mae grŵp Wrecsam yn cerdded bob yn ail ddydd Sul. Gallwch weld y rhaglen ddiweddaraf ar wefan Cerddwyr Gogledd Cymru www.ramblersnorthwales.org.uk
Ynys Môn
Mae teithiau cerdded Cerddwyr Môn wedi eu rhestru ar ein grŵp Facebook, chwiliwch am “Grŵp Cerddwyr Ynys Môn”. Maen nhw hefyd wedi eu rhestru ar wefan Cerddwyr Gogledd Cymru www.ramblersnorthwales.org.uk
Edrychwch i weld a yw taith gerdded wedi cael ei newid neu ei chanslo ddiwrnod neu ddau o flaen llawn drwy edrych ar Facebook, fel y nodir uchod, neu drwy ffonio’r arweinydd.
