
I’r rhan fwyaf o aelodau, maen nhw’n ymwneud â’r sefydliad fel arfer drwy gyfrwng un o’n Grwpiau penodol. I weld manylion cysylltu a/neu wefan neu dudalen Facebook unrhyw grŵp, cliciwch ar Enw’r Grŵp isod.

Mae Cerddwyr Berwyn wedi eu seilio o amgylch Llangollen. Mae gennym raglen o deithiau cerdded ar Ddydd Iau ac mae croeso i bawb ddod i’r rhain. Cawsom ei henw oherwydd Mynyddoedd y Berwyn ond dydyn ni ddim wedi ein cyfyngu i’r ardal honno. Byddwch yn gweld bod ein teithiau cerdded i gyd o fewn tua awr o’n canolfan yn y car.
Mae Grŵp Clwyd yn helpu pobl leol i fwynhau cerdded a gofalu am y mannau lle’r ydym oll yn hoffi cerdded. Mae ein Grŵp yn trefnu teithiau cerdded rheolaidd dan arweiniad arbenigwyr lleol – ffordd wych o fynd i’r awyr agored, gwneud ffrindiau newydd a chanfod sut mae cerdded yn rhoi hwb i’ch iechyd a’ch hapusrwydd. Rydym yn trefnu teithiau Grŵp yn lleol ac ymhellach i ffwrdd yn Eryri, ac mae gennym amrywiaeth dda o deithiau cerdded fel bod taith ar gael i bob lefel o allu bron iawn. Mae croeso cynnes i chi roi cynnig ar ddod i gerdded gyda ni, neu helpu i edrych ar ôl y llwybrau a’r mannau gwyrdd ac agor lleoedd newydd i’w harchwilio. Mae’r grŵp wedi ei seilio o amgylch Bwcle, Yr Wyddgrug a Rhuthun

Rydym yn trefnu amrywiaeth o deithiau cerdded i helpu pobl i fwynhau cerdded, yn droeon byr a theithiau i gopaon mynyddoedd ac hefyd dripiau i archwilio ardaloedd eraill. Rydym yn gweithio gyda chyrff lleol eraill i amddiffyn y mannau yr ydym yn caru eu cerdded.
Mae Grŵp Cerddwyr Glannau Dyfrdwy wedi ei seilio yng Ngogledd Ddwyrain Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru, a dyma’r Grŵp Cerddwyr lleol. Rydym yn annog cerddwyr newydd a phrofiadol i ymuno â ni; mae croeso cynnes i aelodau a phobl nad ydynt yn aelodau o’r Cerddwyr i ddod i fwynhau ein teithiau cerdded gydag arweinydd sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn.
Mae gennym tua hanner cant o deithiau cerdded bob blwyddyn, yn amrywio o droeon crwydro hawdd a byr i ddyddiau mwy heriol yn y mynyddoedd uchel. Gyda’r arfordir hyfryd a bryniau Eryri, a thoreth i’w fwynhau rhwng y ddau, bydd teithiau cerdded ar gael i apelio at bawb. Yn yr haf rydym yn teithio ymhellach i ffwrdd i fwynhau ein penwythnos hir poblogaidd o deithiau cerdded, ac mae gennym amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol drwy’r flwyddyn gron, o noson ginio a chwis yn y gaeaf i farbeciw ar y traeth yn yr haf. Rydym hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas am fod gennym dîm o wirfoddolwyr brwd sy’n gwneud atgyweiriadau a gwelliannau i’r llwybrau troed yn ein hardal.
Mae Cerddwyr Meirionnydd yn griw cyfeillgar o bobl sy’n mwynhau’r cerdded, yr ardal wledig hyfryd lleol a bod yng nghwmni pobl eraill. Rydym yn trefnu teithiau cerdded yn rheolaidd, sy’n amrywio o droeon syml drwy gefn gwlad i deithiau egnïol yn y mynyddoedd, oll dan arweiniad gwirfoddolwyr y Grŵp. Mae’n ffordd wych o fynd allan i’r awyr iach, gwneud ffrindiau newydd a gwella eich iechyd a’ch hapusrwydd. Rydym yn arbennig o falch i groesawu pobl newydd felly beth am ddod draw i brofi taith gerdded gyda ni?
Croeso i’n grŵp cerdded. Rydym yn cynnig rhaglen o deithiau cerdded drwy’r flwyddyn gron a fydd yn eich helpu i ddarganfod harddwch cefn gwlad Gogledd Cymru. Mae ein teithiau cerdded yn cael eu harwain gan aelodau lleol profiadol sy’n golygu y gallwch fwynhau holl fanteision cerdded heb bryderu am fynd ar goll neu drafferthu cynllunio taith. Beth am roi cynnig ar ymuno â ni? Bydd ein grŵp cyfeillgar yn eich croesawu’n gynnes. Gall pob newydd-ddyfodiad ymuno â ni am ddwy neu dair o deithiau cerdded cyn penderfynu ydyn nhw eisiau ymuno.
Daw aelodau ein Grŵp o Sir Wrecsam. Rydym yn cerdded yn eang yn ein Sir ac hefyd yn y siroedd Cymreig eraill sydd gerllaw. Am ein bod mor agos at y ffin rydym hefyd yn ymweld â Sir Gaer a Swydd Amwythig.
Ni yw grŵp lleol y Cerddwyr sydd wedi ei seilio ar dir hardd Ynys Môn. Yn ein barn ni, mae cerdded yn ffordd wych o gyfarfod ffrindiau newydd a rhoi hwb i’ch iechyd a’ch hapusrwydd. Mae ein haelodau’n arwain teithiau cerdded i bob oedran a gallu, ar yr ynys ac ar y tir mawr. Mae croeso cynnes iawn i newydd-ddyfodiaid, yn drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd, a chânt roi cynnig ar gwpwl o deithiau cerdded cyn ymrwymo i ddod yn aelodau o’r Cerddwyr.
Mae gennym hefyd dîm o wirfoddolwyr o’r enw The Silver Slashers sy’n gweithio’n agos â Chyngor Sir Fôn i wella’r rhwydwaith llwybrau cerdded.

Yng Ngogledd Cymru mae gennym nifer o grwpiau cerdded sy’n ‘Grwpiau Cyswllt’. Maen nhw’n talu ffi flynyddol i fod yn gysylltiedig â’r Cerddwyr. Er nad yw’r grwpiau hyn fel arfer yn cymryd rhan mewn gwaith ar y llwybrau cerdded, hawliau tramwy ac ymgyrchoedd eraill, maen nhw’n cynnig cyfleoedd ychwanegol i bobl fynd ar deithiau cerdded dan arweiniad.
Abergele Rambling Club
Teithiau cerdded o tua 8 milltir bob Dydd Sul, aelodaeth flynyddol.
Cysylltwch â: abergeleramblers.wixsite.com/abergeleramblers
Clwb Cerdded Cefni
Clwb Cerdded Cefni Walking Club. Ysgrifennydd Barbara Hale
Community Walks
Teithiau Cerdded Cymunedol am Ddim ym Mhenarlâg a Higher Kinnerton:
Penarlâg-Rydym yn cynnig 2 daith gerdded bob bore Gwener, ac un yn y prynhawn
Cysylltwch ag Ian
Higher Kinnerton-Rydym yn cyfarfod bob prynhawn Iau.
Cysylltwch â Brian
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.communitywalks.org.uk eu E-bostiwch c
Holywell Ramblers
Rydym yn glwb cerdded hirsefydlog sydd â thua 50 o aelodau. Rydym yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded, ddwywaith yr wythnos fel arfer, ac mae nifer ohonynt yn croesawu cŵn.
Rhodwyr Llyn
www.rhodwyr-llyn-ramblers.org.uk
Prestatyn Rambling Club
Peter Simpson
Lluniau: Matt Nobles
